Bythynnod Moel yr Iwrch
Mae Bythynnod Moel yr Iwrch wedi eu lleoli ar lethrau dyffryn diarffordd gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy ac Eryri yn ymestyn o’u blaenau. Mae’n lleoliad perffaith i ymlacio a dianc oddiwrth brysurdeb bywyd dydd i ddydd
Cewch fwynhau’r llonyddwch, gyda dim ond brêf y defaid a thrydar yr adar bach i darfu ar eich tawelwch. Mentrwch allan yn y nos i syllu ar y sêr dirifedi yn yr awyr ddu – does dim llygredd golau yma.
BWCIO
- Bwthyn i gysgu 4
- Arddull cyfoes, cynllun agored
- Llety i gyd ar un llawr
- Bwthyn eco-gyfeillgar
- Bwthyn i gysgu 4
- Bwthyn clud, traddodiadol
- Llety ar ddau lawr
- Bwthyn eco-gyfeillgar
- Bwthyn yn sefyll ar wahân – yn cysgu 4 & cot
- Tu mewn cyfoes, cynllun agored
- Llety ar ddau lawr
- Gwrês oddi-tan llawr eco-gyfeillgar
Cyfleusterau modern
Mae’r bythynnod wedi eu dodrefnu i safon uchel iawn ac wedi eu hadfer mewn modd sydd yn eco gyfeillgar. Mae nodweddion traddiodiadol yr hen adeiladau yn eistedd yn gyfforddus ochr yn ochr â’r cyfleusterau modern, megis y system wresogi ‘tan llawr’, y cawodydd moethys a’r teledu sgrîn llyfn.
Dewch draw i weld drost eich hunain—cewch groeso cynnes Cymreig yma ym Moel yr Iwrch Isaf.
ARGAELEDD