InstagramFacebookGood to GoVisit Wales 5 star logo

Bwthyn yn cynnig llety ar un llawr i gysgu 4

Prisiau’n cychwyn am £/wythnos ARGAELEDD & PRISIAU

Bwthyn Hafod Iwrch

Mae Hafod Iwrch wedi cael defnydd amrywiol dros y blynyddoedd. Yn y dyddiau pan roedd Moel yr Iwrch yn fferm odro, roedd yr adeilad yn barlwr godro i’r fuches laeth, gyda’r briws i gadw’r llaeth yn oer yn rhan ohono. Erbyn heddiw, mae wedi ei adfer i fod yn fwthyn moethus sydd yn cysgu 4. Mae’r bwthyn i gyd ar yr un llawr ac mae teimlad modern, agored iddo, tra bod y nodweddion traddodiadol yn ein hatgoffa o’i hanes blaenorol.

Mae drws y ffrynt yn ein harwain yn syth i fewn i ardal fyw Hafod. Yn un pen i’r ‘stafell mae soffa a chadair freichiau yn amgylchynu’r stôf goed gysurus a’r teledu fflat modern. Mae’r drws gwydr mawr sydd yn arwain allan i’r ardd gefn yn cyfrannu at deimlad heulog yr ystafell.

Mae’r gegin fodern yn cynnig yr holl fyddech yn ei ddisgwyl, gan gynnwys peiriant golchi llestri, microdon ac oer/rhewgell fawr. Mae bwrdd a chadeiriau derw yn creu ardal gymdeithasol.

Cyfleusterau

  • Gwres oddi tan y llawr trwy’r bwthyn
  • Mynediad i’r we yn ddi-dal (mae cyfyngiadau – gwelir ‘Gair i Gall’)
  • Stôf goed
  • Popty meicrodon
  • Popty trydan & hob
  • Peiriant golchi llestri
  • Oergell / rhewgell fawr
  • Peiriant golchi dillad
  • Sychwr dillad
  • Haern smwddio
  • Sychwr gwallt
  • Teledu sgrin fflat yn y lolfa a’r prif lofft
  • Chwaraewr DVD’s
  • Dillad gwlae a tyweli
  • Cot & chadair uchel ar gael
  • BBQ
  • Gardd caedig
  • Croeso i gŵn

Mae dwy lofft ac ystafell folchi yn arwain oddiar yr ardal fyw, i gyd ar yr un llawr.

Llofft 1. Gwely maint ‘brenhinol’gyda dillad gwlae cotwn, dodrefn derw, teledu sgrin fflat ac ystafell folchi ‘en-suite’ gyda cawod law foethys

Llofft 2. Dau wely sengl gyda dillad gwlae cotwn a dodrefn derw. Golygfeydd godidog o’r caeau a’r bryniau.

Ystafelloedd ‘molchi: ceir bath gyda chawod uwch ei ben yn yr ystafell molchi deuluol, cawod ‘law’ yn yr ‘en-suite’ sydd yn arwain o’r prif lofft

Tu allan

Mae drws gwydr yn arwain o’r lolfa i’r ardd gefn, gyda phatio a lawnt. Bwrdd picnic.

Mae giât yn arwain o’r ardd yn syth allan i gaeau agored, gyda llwybrau cyhoeddus a chylch deithiau.

Mae peiriant golchi dillad a sychwr dillad wedi’w lleoli yn y cwt oddiar yr ardd gefn (rhannu gyda Stabal Iwrch).

Gwres

Mae’r gwres oddi tan y llawr yn sicrhau tymheredd cytbwys trwy’r bwthyn i gyd. Mae’r stôf goed yn cynnig gwres ychwanegol os bydd angen.

GAIR I GALL

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl pan rydych yn archebu lle i aros yn Hafod Iwrch. Rydym wedi ceisio bod mor onest a phosib tra’n disgrifio y llety…..

Mynediad i’r ŵe – gan ein bod mor wledig rydym yn gallu cynnig mynediad cyfyngedig i’r ŵe yn unig. Mae’n gweithio’n hwylus ar gyfer darllen ebŷst, edrych ar Facebook a phori gwefannau. Yn anffodus, ni fedran ganiatau defnyddio’r cysylltiad i wylio fidios, chwarae gemau neu i lawrlwytho ffeiliau mawr. Mae nifer o lefydd lleol lle gellir cael mynediad i’r ŵe yn rhad ac am ddim.

Mae signal ffonau symudol yn tueddu mynd a dwad ym Moel yr Iwrch. Fel arfer, ni ellid derbyn signal tu fewn i’r bythynnod ond mi fedrwch wneud galwadau yn y cae drws nesaf neu trwy gerdded ‘chydig i fyny’r ffordd. Mae ein ffôn tŷ wastad ar gael mewn argyfwng.

Cyrraedd

Cewch fynediad i’r bythynnod o 4 o’r gloch ymlaen ac rydym yn gofyn yn garedig i chwi adael am 10 o’r gloch y bore.

Mae croeso cynnes i’ch cŵn aros yn Hafod Iwrch gyda chi (côst ychwanegol – plîs holwch ni)

Gwpiau mawr. Gellir llogi y tri bwthyn gyda’i gilydd i gysgu hyd at 12 o bobol – lleoliad delfrydol am Nadolig neu Flwyddyn Newydd deuluol.

Argaeledd

Prisiau

Date Weekly Short Stays