InstagramFacebookGood to GoVisit Wales 5 star logo

Bythynnod moethys ar fferm deuluol Cymraeg

Prisiau’n cychwyn am £/wythnos ARGAELEDD & PRISIAU

Amdanom Bythynnod Moel yr Iwrch

Mae ein lleoliad yn berffaith ar gyfer canfod holl atyniadau Eryri a Gogledd Cymru. Efallai eich bod am fentro ar un o atyniadau anturiaethus yr ardal, neu efallai eich bod yn chwilio am rhywle clyd i guddio rhag y byd am noson neu ddwy. P’run bynnag yw eich dymuniad, ni fydd y bythynnod hyfryd yma yn eich siomi.

Mae’r bythynnod yn sefyll ar fuarth ein fferm teuluol, gyferbyn â’n cartref. Mae hyn yn golygu ein bod wastad wrth law i ateb unrhyw gwestiynnau ac i gynnig help llaw os bydd yr angen yn codi. Mae digon o gyfle i gwrdd â thrigolion y fferm – cathod, cŵn, ceffylau, ieir a chywion, defaid ag wyn bach.

Mae’r iaith Gymraeg yn iaith fyw yn yr ardal yma o Eryri a Chymraeg yw ein hiaith cyntaf ni fel teulu. Os ydych yn rhygl, yn dysgu neu jyst yn hoff o wrando ar nodau swynol ein iaith, ni chewch eich siomi yma.