InstagramFacebookGood to GoVisit Wales 5 star logo

Bwthyn 5* yn sefyll ar wahân – yn cysgu 4 & cot

Prisiau’n cychwyn am £440/wythnos ARGAELEDD & PRISIAU

Bwthyn Ysgubor Iwrch

Wedi ei hesgeuluso am flynyddoedd gan nad oedd yn cwrdd â gofynion amaethyddiaeth modern, mae’r hen ‘sgubor hyfryd hon wedi cael ei hachub rhag mynd yn adfail a wedi cael ei thrawsnewid i fod yn lety gwyliau moethus a chyfforddus dros ben.

Rydym wedi ceisio ein gorau i gadw golwg allannol y ‘sgubor yn driw i’w edrychiad gwreiddiol, gan gadw’r nodweddion traddodiadol yn eu lle.

Mae Ysgubor Iwrch bellach yn cynnig llety moethus mewn lleoliad perffaith i fwynhau gwyliau bythgofiadwy yn Eryri, Gogledd Cymru.

Mae teimlad agored, brâf i du mewn Ysgubor Iwrch. Mae’r llawr waelod yn un ystafell fawr agored, gyda chegin fodern ar un ochor a lolfa gyfforddus ar y naill. Yn ganolbwynt i’r ystafell mae grisiau pren i’r llawr cyntaf. Mae’r ochrau gwydyr i’r grisiau yn ychwanegu at y teimlad agored ac yn rhoi naws gyntefig i’r ystafell. Mae bwrdd bwyta derw wedi’w leoli o flaen y drysau patio llydan sydd yn agor allan i’r ardd gefn.

Mae’r gwres odditan llawr yn sicrhau tymheredd cytbwys trwy’r bwthyn i gyd. Os bydd angen gwrês ychwanegol, neu os am greu awyrgylch gysurus, mae’r stôf goed ar gael.

I fyny’r grisiau mae dwy lofft gyda gwlae hynod gyfforddus. Mae’r ffennestri mawr yn y ddwy lofft yn cynnig golygfeydd hyfryd o’r caeau a’r bryniau o’n cwmpas.

Mae’r ystafelloedd ymolchi wedi’w ffitio i safon uchel.

Cyfleusterau

  • Gwres oddi tan y llawr
  • Mynediad i’r we (mae cyfyngiadau – gwelir ‘Gair i Gall’)
  • Stôf goed gyda chyflenwad o goed tân
  • Popty meicrodon
  • Popty trydan & hob
  • Peiriant golchi llestri
  • Oergell / rhewgell
  • Peiriant golchi dillad
  • Sychwr dillad
  • Haern smwddio
  • Sychwr gwallt
  • Teledu sgrin fflat yn y lolfa a’r prif lofft
  • Chwaraewr DVD’s
  • Dillad gwlae cotwn a thyweli moethus
  • Cot & chadair uchel ar gael
  • BBQ
  • Gardd caedig
  • Dim cwn

Ystafell Wely 1 gwely maint ‘brenhinol’ gyda dillad gwlae cotwn, dodrefn derw, wardrôb fawr, teledu sgrin fflat ac ystafell folchi ‘en-suite’ gyda chawod law foethus. Ffennest fawr gyda golygfeydd brâf. Ffennest ‘sky light’ yn y tô.

Ystafell Wely 2 dau wely sengl gyda dillad gwlae cotwn a dodrefn derw. Ffennest fawr a ffennest ‘sky light’ yn y tô.

Ystafelloedd molchi
Ceir bath gyda chawod uwch ei ben yn yr ystafell folchi deuluol, a chawod ‘law’ yn yr ‘en-suite’ sydd yn arwain o’r prif lofft

Tu allan

Mae drysa ‘patio’ mawr yn arwain allan i’r ardd gefn, gyda lawnt a phatio llechi. Ardal berffaith i ymlacio a mwynhau’r olygfa.

Mae peiriant golchi dillad a sychwr dillad wedi’w lleoli yn yr adeilad oddiar yr ardd gefn.

GAIR I GALL

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl pan rydych yn archebu lle i aros yn Hafod Iwrch. Rydym wedi ceisio bod mor onest a phosib tra’n disgrifio y llety…..

Mynediad i’r ŵe – gan ein bod mor wledig rydym yn gallu cynnig mynediad cyfyngedig i’r ŵe yn unig. Mae’n gweithio’n hwylus ar gyfer darllen ebŷst, edrych ar Facebook a phori gwefannau. Yn anffodus, ni fedran ganiatau defnyddio’r cysylltiad i wylio fidios, chwarae gemau neu i lawrlwytho ffeiliau mawr. Mae nifer o lefydd lleol lle gellir cael mynediad i’r ŵe yn rhad ac am ddim.

Mae signal ffonau symudol yn tueddu mynd a dwad ym Moel yr Iwrch. Fel arfer, ni ellid derbyn signal tu fewn i’r bythynnod ond mi fedrwch wneud galwadau yn y cae drws nesaf neu trwy gerdded ‘chydig i fyny’r ffordd. Mae ein ffôn tŷ wastad ar gael mewn argyfwng.

Gwres

Mae’r gwres oddi tan y llawr yn sicrhau tymheredd cytbwys trwy’r bwthyn i gyd. Mae’r stôf goed yn cynnig gwres ychwanegol os bydd angen.

Cyrraedd

Cewch fynediad i’r bythynnod o 4 o’r gloch ymlaen ac rydym yn gofyn yn garedig i chwi adael am 10 o’r gloch y bore.

Gwpiau mawr. Gellir llogi Ysgubor, Hafod a Stabal Iwrch gyda’i gilydd i gysgu hyd at 12 o bobol – lleoliad delfrydol am Nadolig neu Flwyddyn Newydd deuluol.

Argaeledd

Prisiau

Date Weekly Short Stays