InstagramFacebookGood to GoVisit Wales 4 star logo

Bwthyn clud gyda 2 lofft i gysgu 4

Prisiau’n cychwyn am £410/wythnos ARGAELEDD & PRISIAU

Bwthyn Stabal Iwrch

Bwthyn clud 2 lofft yn cynnig llety moethys i hyd at 4 o bobol ydi Stabal Iwrch. Rydym wedi adnewyddu’r hen adeilad, sef stabal gwreiddiol y fferm, i safon uchel iawn. Rydym wedi cadw nodweddion traddodiadol yr adeilad, a’u cyfuno gyda’r holl gyfleusterau modern y byddech yn ddisgwyl eu gweld mewn llety 4*.

Mae’r drws ffrynt yn agor yn syth fewn i ystafell fyw Stabal Iwrch. Ceir soffa a chadair freichiau wedi’w gosod yn glyd o amgylch y stôf goed a’r teledu sgrin fflat. Mae’r cwpwrdd pîn hynafol yn ychwanegu at deimlad traddodiadol y bwthyn a mae’r drws cefn gwydyr yn arwain allan i’r ardd gefn.

Yn yr ystafell drws nesaf mae’r gegin, gyda chypyrddau derw traddodiadol a bwrdd derw wedi’w osod o flaen y drysau gwydyr mawr sydd yn agor allan i’r cwrt o flaen y bwthyn.

Cyfleusterau

  • Gwres oddi tan y llawr trwy’r bwthyn
  • Mynediad i’r we yn ddi-dal (mae cyfyngiadau – gwelir ‘Gair i Gall)
  • Stôf goed
  • Popty meicrodon
  • Popty trydan & hob
  • Peiriant golchi llestri
  • Oergell / rhewgell fawr
  • Peiriant golchi dillad
  • Sychwr dillad
  • Haern smwddio
  • Sychwr gwallt
  • Teledu sgrin fflat yn y lolfa a’r prif lofft
  • Chwaraewr DVD’s
  • Dillad gwlae a tyweli
  • Cot & chadair uchel ar gael
  • BBQ
  • Gardd caedig
  • Croeso i gŵn

Mae grisiau pren yn arwain o’r lolfa i’r lloft lle mae dau ystafell wely ac ystafell folchi.

Llofft 1. Gwely maint ‘brenhinol’gyda dillad gwlae cotwn, dodrefn derw, teledu sgrin fflat ac ystafell folchi ‘en-suite’ gyda chawod law foethys

Llofft 2. Dau wely sengl gyda dillad gwlae cotwn, dodrefn derw a polyn i hongian dillad. Drws gwydyr yn arwain o’r llofft i lawr y grisiau cerrig a oedd yn wreiddiol yn ‘risiau i’r llofft stabal.

Cewch ddeffro i olygfeydd godidog o’r caeau a’r bryniau.

Ystafelloedd ‘molchi: ceir bath digon mawr i ddau yn y prif ystafell folchi. Mae modd syllu ar y sêr dirifedi wrth orwedd yn y bath a syllu trwy’r ffennest fawr yn y tô.
Mae ‘stafell folchi ‘en-suite’ yn arwain o’r llofft ddwbwl, gyda chawod law.

Tu allan

Mae drws gwydr yn arwain o’r lolfa i’r ardd gefn, gyda phatio a lawnt. Bwrdd picnic.

Mae giât yn arwain o’r ardd yn syth allan i gaeau agored, gyda llwybrau cyhoeddus a chylch deithiau.

Mae peiriant golchi dillad a sychwr dillad wedi’w lleoli yn y cwt oddiar yr ardd gefn (rhannu gyda Hafod Iwrch).

Gwres

Mae’r gwres oddi tan y llawr yn sicrhau tymheredd cytbwys trwy’r bwthyn i gyd. Mae’r stôf goed yn cynnig gwres ychwanegol os bydd angen.

GAIR I GALL

Mae’n bwysig iawn i ni eich bod yn gwybod yn union beth i’w ddisgwyl pan rydych yn archebu lle i aros yn Stabal Iwrch. Rydym wedi ceisio bod mor onest a phosib tra’n disgrifio y llety…..

Gan ein bod wedi cadw llawer o nodweddion traddodiadol yr adeilad, ee y trawstiau pren yn nenfwd y llofftydd, mae yno un neu ddau nodwedd sydd yn werth eu hystyried pan yn edrych i aros yn Stabal Iwrch.

Mae’r nenfwd yn y llofftyd ychydig yn îs na’r arfer, yn enwedig yn yr ochrau, sydd yn golygu bod angen bod yn ofalus rhag taro pen yn y fframiau pren.

Oherwydd y fframiau pren yma, rydym wedi gorfod torri mymryn ar goesau’r gwely dwbwl er mwyn ei wneud yn ddigon isel i ffitio’n dwt yn y llofft.  Mae llawer o’n gwesteion yn dotio at gael y gwely fel hyn, ond efallai y dylid ystyried yn ofalus os oes problemau gyda pengliniau drwg!

Mynediad i’r ŵe – gan ein bod mor wledig rydym yn gallu cynnig mynediad cyfyngedig i’r ŵe yn unig. Mae’n gweithio’n hwylus ar gyfer darllen ebŷst, edrych ar Facebook a phori gwefannau. Yn anffodus, ni fedran ganiatau defnyddio’r cysylltiad i wylio fidios, chwarae gemau neu i lawrlwytho ffeiliau mawr. Mae nifer o lefydd lleol lle gellir cael mynediad i’r ŵe yn rhad ac am ddim.

Mae signal ffonau symudol yn tueddu mynd a dwad ym Moel yr Iwrch. Fel arfer, ni ellid derbyn signal tu fewn i’r bythynnod ond mi fedrwch wneud galwadau yn y cae drws nesaf neu trwy gerdded ‘chydig i fyny’r ffordd. Mae ein ffôn tŷ wastad ar gael mewn argyfwng.

Cyrraedd

Cewch fynediad i’r bythynnod o 4 o’r gloch ymlaen ac rydym yn gofyn yn garedig i chwi adael am 10 o’r gloch y bore.

Mae croeso cynnes i’ch cŵn aros yn Stabal Iwrch gyda chi (côst ychwanegol – plîs holwch ni)

Gwpiau mawr. Gellir llogi y tri bwthyn gyda’i gilydd i gysgu hyd at 12 o bobol – lleoliad delfrydol am Nadolig neu Flwyddyn Newydd deuluol.

Argaeledd

Prisiau

Date Weekly Short Stays